tai

Mae gan ganol dinas Abertawe gynlluniau ar gyfer datblygiad manwerthu, hamdden a thai newydd, gan greu cymysgedd amrywiol o weithio, dysgu a byw – wedi’i wella gan gysylltiadau newydd rhwng canol y ddinas a’r glannau.

Cynllun Pentref Parc Felindre

Mae cynigion ar gyfer cynllun pentref newydd yn cael eu datblygu ar safle maes glas sy'n cydffinio â'r Parc Busnes. Y weledigaeth yw creu cymuned newydd fywiog ym Mharc Felindre lle bydd pobl yn dewis byw, gweithio ac ymlacio, gan ategu amgylchedd busnes Parc Felindre. Bydd y gymuned drefol yn cynnwys:

  • rhwydwaith stryd syml â llwybrau cerdded/beicio cysylltiedig
  • canolbwynt maes y pentref
  • ystod o dai o safon uchel wedi’u hadeiladu’n gynaliadwy
  • amwynderau canolog megis ysgol, siop a mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.
Parc Felindre

datblygiad newydd

Mae tai newydd yn yr arfaeth ar hyd ardal manwerthu a hamdden newydd Abertawe yn safle Dewi Sant, Dinas y Glannau, Ffordd y Brenin a Stryd Mariner. Bydd y datblygiadau newydd hyn yn atgyfnerthu rôl Abertawe fel ysgogwr economaidd ar gyfer Dinas Ranbarth Bae Abertawe, yn gwella ansawdd bywyd i drigolion ac ymwelwyr, ac yn creu swyddi a thwf.

Mae Ardal 1 yn gynllun manwerthu a hamdden â 18,580 m. sg. (200,000 tr. sg.), yn gysylltiedig â’r ardaloedd siopa, gan ddod â bywyd newydd i ganol y ddinas. Tua’r de, mae cysylltiad â Dinas y Glannau a chynigion preswyl, hamdden a masnachol uchelgeisiol yn yr arfaeth.

Mae Ardal 2 yn safle 6.9 hectar (17 erw) yn cael ei ddisgrifio fel 'y safle datblygu gorau yng Nghymru' gan Lywodraeth Cymru, yn edrych dros ehangder sylweddol Bae Abertawe.

Clip Right

cymysgedd tai

Mae Abertawe’n ddinas glannau arloesol yng nghanol Dinas Ranbarth Bae Abertawe sy’n cynnig tai amrywiol mewn amgylchedd naturiol eithriadol. Mae’r amgylchedd naturiol yn yr ardal yn gosod y ddinas ar wahân, gan ei fod ar arfordir trawiadol ac ar hyd Ardal gyntaf y DU o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), sef Penrhyn Gŵyr.

Cynigir dulliau tai traddodiadol neu gyfoes sy’n galluogi ffyrdd trefol, gwledig neu arfordirol o fyw.

Mae Dinas y Glannau’n lleoliad nodedig ac wedi’i dynodi fel y safle gorau â statws blaenoriaeth genedlaethol Cymru. Bydd hyn yn dod yn gyrchfan masnachol a hamdden newydd â defnyddiau preswyl a chymunedol.

Parc Felindre

llety myfyrwyr

Mae gan Abertawe boblogaeth o bron chwarter miliwn y mae dros hanner ohonynt yn oedran gweithio ac mae 24,000 yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe neu Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae gan Abertawe ei hasiantaeth tai llety myfyrwyr arbenigol ei hun, sef Gwasanaethau Llety Myfyrwyr, a adwaenir hefyd fel Gosodiadau SAS. Mae hyn yn fenter ar y cyd rhwng Gwasanaethau Preswyl a’r Undeb Myfyrwyr, a sefydlwyd i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i dai addas o ansawdd da yn y sector preifat.

Mae SAS yn cyhoeddi canllaw myfyrwyr sy’n cynorthwyo myfyrwyr i wneud penderfyniadau ar rannu tai, cyllideb, cyfleusterau a lleoliad.

Clip Right

“Gwneud Abertawe’n fan lle mae pobl eisiau byw a gweithio ynddo ac ymweld ag ef. Mae hyn yn cwmpasu safleoedd, trafnidiaeth, adfywio canol y ddinas, yr amgylchedd naturiol a thwristiaeth”

o Fframwaith Datblygu Felindre