Cynllun Pentref Parc Felindre
Mae cynigion ar gyfer cynllun pentref newydd yn cael eu datblygu ar safle maes glas sy'n cydffinio â'r Parc Busnes. Y weledigaeth yw creu cymuned newydd fywiog ym Mharc Felindre lle bydd pobl yn dewis byw, gweithio ac ymlacio, gan ategu amgylchedd busnes Parc Felindre. Bydd y gymuned drefol yn cynnwys:
- rhwydwaith stryd syml â llwybrau cerdded/beicio cysylltiedig
- canolbwynt maes y pentref
- ystod o dai o safon uchel wedi’u hadeiladu’n gynaliadwy
- amwynderau canolog megis ysgol, siop a mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.