busnes lleol

Mae gan Abertawe lawer o fusnesau amrywiol a datblygiadau newydd ar gyfer adfywio a thwf – gan ei wneud yn lle gwych i fod mewn busnes a mwynhau ffordd drefol neu wledig o fyw.

canolfan busnes

Mae busnesau mawr a bach yn elwa ar eu canolfan yn Abertawe a rhanbarth De Cymru a’u cysylltiad â’r ardal yn y sectorau gweithgynhyrchu, gwasanaeth a chyhoeddus.

Mae Abertawe’n ganolfan busnes ffyniannus trwy ei rhinwedd ei hun ac mae rhanbarth De Cymru yn gartref i ystod o arweinwyr brand, sydd wedi gwneud eu dewis yn seiliedig ar sylfeini economaidd cadarn, cymorth busnes, cyfoeth o sgiliau a’r gweithlu hyddysg, yn ogystal â’r cysylltiadau cryf a chynyddol rhwng busnes a’r byd academaidd, mynediad ardderchog at drafnidiaeth, cost-effeithlonrwydd a ffordd gyffrous o fyw.

Parc Felindre

sectorau busnes

Yn ogystal â bod yn ffwrnais ar gyfer syniadau newydd, ymchwil a datblygiad busnes, a datblygiadau creadigol, yn gartref i’r Athrofa Datblygu Cynaliadwy ym Mhrifysgol Cymru, mae hefyd yn ddinas sy’n cymhwyso arloesedd i werthoedd a thraddodiadau ei hanes diwylliannol a masnachol.

Mae sectorau diwydiant allweddol yn adlewyrchu ymchwil gadarnhaol a phynciau arbenigol y prifysgolion, ac uchelgais Abertawe i dyfu fel ‘Dinas Wyddoniaeth’. Mae’r sectorau diwydiant a gynrychiolir ac sy’n tyfu’n gyflym yn cynnwys: diwydiannau creadigol ym mhen uchaf y farchnad, TGCh (gan adeiladu ar y Sefydliad Uwch-delathrebu newydd ym Mhrifysgol Abertawe), Gwyddorau Bywyd (eto wedi’u cynrychioli’n gadarn gan y Sefydliad Gwyddorau Bywyd yn y Brifysgol), diwydiannau morol, gwasanaethau busnes proffesiynol, Peirianneg Fanwl, Twristiaeth ac Iechyd.

Clip Right
Parc Felindre

digwyddiadau busnes

Mae lleoliadau lleol yn defnyddio ffyrdd gwahanol o ysbrydoli busnes a chysylltedd busnes. Ar gyfer y newyddion diweddaraf, ewch i’w gwefannau:

Clip Right

“Bydd Parc Felindre yn dod yn amgylchedd busnes hygyrch iawn, o safon uchel sy’n denu gwasanaethau lefel uchel a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg”

Fframwaith Parc Felindre