cynllunio

*Llun CGI at ddibenion dangosol yn unig

Yn bum milltir tua’r gogledd o ddinas Abertawe, mae Parc Felindre, amgylchedd o safon ar gyfer busnes, yn un o’r cyfleoedd datblygu mwyaf yn ne Cymru.

nodweddion y safle

Mae Parc Felindre yn ymestyn i 43 hectar (106 erw) i gyd. O hyn, mae hyd at 16 hectar (39.5 erw) o dir cyflogaeth ar gael mewn 12 llain wedi'u gasanaethu'n llawn sy’n amrywio o ran maint o 0.5 i 2 hectar (1.2 i 4.9 erw). Mae gan Barc Felindre fynediad uniongyrchol o Gyffordd 46 yr M4 a chaiff ei wasanaethu gan ffordd fynediad gylchol – i’w henwi’n Ffordd Parc Felindre.

Wedi’i dirlunio i safon uchel, mae digon le parcio’n gysylltiedig â phob llain. Mae lleiniau ar gael ar unwaith. Mae’r safle’n hyblyg – yn ddelfrydol ar gyfer busnesau sy'n ehangu a mewnfuddsoddiad mawr.

Parc Felindre

cefndir

Ac yntau wedi’i ddatgomisiynu ym 1989, mae hen waith tunplat Felindre wedi’i ddatblygu fel Parc Busnes Strategol trwy fenter ar y cyd rhwng Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru. Mae’r safle maes glas cyfagos yn cael ei hyrwyddo trwy’r Cynllun Datblygu Lleol sy'n dod i'r amlwg ar gyfer pentref ag amwynderau cysylltiedig.

Clip Right

datblygiad

Parc busnes a gefnogir gan y sector cyhoeddus yw Parc Felindre sy’n canolbwyntio ar ddiwydiannau sy’n dod i’r amlwg megis gweithgynhyrchu lefel uchel a defnyddiau lefel uchel, ynghyd â defnydd ategol lle maent yn gyflenwol, a pharcio. Gellir darparu arwynebedd llawr posib o hyd at 80,065 metr sgwâr (862,000 tr sg) ar 16 ha (40 erw) net. Dyrennir y parc busnes yn y CDLl mabwysiedig ar gyfer defnydd B1 a B2.

Parc Felindre

heddiw

Mae gan Barc Felindre y potensial i fod yn ganolfan ar gyfer rhwydweithio a chyfnewid gwybodaeth yn ne Cymru ar gyfer diwydiannau sy’n dod i’r amlwg a sectorau arbenigol megis ymchwil a dylunio, gwyddorau bywyd, peirianneg uwch a TGCh yng Nghymru a’r DU.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Heather Lawrence

all agen logo

Clip Right

“Mae’r trawsnewidiad yn y blynyddoedd diwethaf (Gwaith Tunplat Felindre) wedi bod yn anhygoel. Mae’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni trwy weithio mewn partneriaeth agos â Llywodraeth Cymru ar gynllun ar gyfer gwella nid dim ond Abertawe, ond Dinas Ranbarth Bae Abertawe i gyd.”

Y Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr