ar y ffordd
Mae Parc Felindre ger Cyffordd 46 yr M4, sy’n rhoi mynediad hwylus trwy goridor yr M4 i ddinasoedd mawr Bryste a Llundain tua'r dwyrain, ar draffordd yr M5, i Birmingham a Manceinion i'r gogledd, Exeter, Plymouth a Southampton tua'r de. Bydd pob llain yn cael digon o le parcio.
Mae gwasanaethau coetsis buan uniongyrchol yn cysylltu Abertawe â gweddill Cymru, Canol Llundain, meysydd awyr mawr a chanolfannau allweddol y DU. www.travelling.cymru
amseroedd gyrru cyfartalog i Barc Felindre
Birmingham | 2 awr 40 o funudau |
Bryste | 1 awr 30 o funudau |
Caerdydd | 50 min |
Llundain | 3 awr 15 o funudau |
Casnewydd | 1 awr |
Plymouth | 3 awr |
Portsmouth | 3 awr |
ar y trên
Mae gwasanaethau trên cyflym a mynych yn cysylltu dinasoedd mawr y DU ag Abertawe ac ar gyfartaledd mae 48 o drenau’r dydd yn teithio o Abertawe i Lundain Paddington, gan ei gwneud yn gyfleus ac yn effeithlon cyrraedd prifddinas y DU. O fewn oddeutu 3 awr byddwch yng nghanol Llundain. Bydd gwaith trydaneiddio arfaethedig ar y brif linell rhwng Llundain a De Cymru yn lleihau amseroedd teithio ac yn cynyddu mynychder y trenau.
Mae cysylltiadau rheilffordd uniongyrchol yn golygu ei bod yn hawdd cyrraedd Bryste, Caerdydd, Casnewydd, Henffordd, Crewe a Manceinion. Mae cysylltiadau da â Chanolbarth Lloegr, Gogledd-ddwyrain Lloegr, De Lloegr a De-orllewin Lloegr. Gweler www.nationalrail.co.uk
Mae trenau Eurostar mynych yn cysylltu Paris, Lille a Brwsel yn uniongyrchol â Gorsaf Ryngwladol St Pancras Llundain neu gyswllt tacsi â Llundain Paddington i deithio ymlaen oddi yno i Abertawe. Mae trenau Eurostar yn teithio'n fynych rhwng 0600 a 2100 yn ddyddiol i deithwyr troed.
by air
Mae teithio ymhellach hefyd yn syml. Trwy hedfan, mae cysylltiadau rheilffordd/hedfan ag Abertawe o Lundain (Gatwick a Heathrow). Mae Meysydd Awyr Rhyngwladol Bryste a Chaerdydd (llai nag awr o yrru), hefyd yn cynnig hediadau mewnol, Ewropeaidd a rhyngwladol. www.cardiff-airport.com www.bristolairport.co.uk
ar y môr
Mae Porthladd Abertawe mewn lleoliad delfrydol ar gyfer masnach forol gyda gogledd-orllewin Ewrop, Iwerddon a’r Canolfor. Mae’r porthladd yn darparu ar gyfer llongau hyd at 30,000 tunnell ac yn cynnig cyfleusterau trin cargo cryf.