addysg a sgiliau

Mae Bae Abertawe’n gartref i rai ysgolion a sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach ardderchog. Gyda chynifer o bethau i’w gweld a’u gwneud, mae’n lle gwych i fyw ac astudio ynddo. Mae Prifysgol Abertawe, yn benodol, yn cynnig un o’r profiadau myfyrwyr gorau yn y DU ac, yn ddiweddar, mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Prifysgol y Flwyddyn yn y DU.

addysg a busnes

Ar gyfer economi iach, mae’n hanfodol bod gan addysg gysylltiadau agos â gofynion busnes, ac y gall busnes gael gafael ar y gronfa dalent, cyfleusterau ymchwil ac adnoddau dysgu sydd ar gael.

Mae’r sefydliadau dysgu yn Abertawe’n gweithio gyda busnes yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. O gynlluniau lleoliadau i gynnal hyfforddiant staff a chyfleoedd datblygu, i brosiectau ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth, mae’r rhanbarth yn annog menter fusnes, gan helpu i greu busnes a thyfu busnes yn y dyfodol.

Mae buddsoddiadau sylweddol gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn creu galluoedd ymchwil a dysgu a chydweithrediad academaidd/diwydiant – gan wella safle Abertawe fel Dinas Arloesedd ymhellach.

Parc Felindre

Prifysgol Abertawe

Fel sefydliad a arweinir gan ymchwil, mae Prifysgol Abertawe’n chwarae rôl bwysig wrth ddatblygu’r economi ranbarthol, gan gefnogi busnes a diwydiant trwy gydweithrediadau ymchwil, datblygu sgiliau a mynediad at staff a myfyrwyr.

Gydag arbenigedd mewn sectorau twf blaenoriaethol megis Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Uwch, TGCh, Ynni ac Amgylchedd, Gwyddorau Bywyd, ac Ariannol a Phroffesiynol, gall Prifysgol Abertawe helpu mentrau bach a chanolig a chorfforaethau rhyngwladol i gyflawni eu nodau busnes, p’un ai gwella cynhyrchiant, datblygu sgiliau eu cyflogeion, creu cynnyrch neu wasanaethau newydd neu dyfu mewn maint.

Clip Right

mynediad at dalent

A hithau’n gartref i 20,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys 2,700 o ôl-raddedigion, mae Prifysgol Abertawe’n cynnig profiad myfyrwyr ardderchog gydag addysgu o’r radd flaenaf. Wedi’i sgorio’n 15fed yn y DU a’r orau yng Nghymru ar gyfer cyflogadwyedd myfyrwyr (HESA 2015), mae dros 80% o fyfyrwyr yn mynd i'r swyddi graddedigion gorau, ac enillodd 76.1% o raddedigion yn 2014-15 radd dosbarth 1af neu 2:1.

Mae Academi Cyflogaeth Abertawe Prifysgol Abertawe’n rhoi mynediad i fusnesau at gronfa helaeth y Brifysgol o fyfyrwyr tra chymwysedig israddedig ac ôl-raddedig ar gyfer lleoliadau gwaith a swyddi. Hefyd, gall cyflogwyr hysbysebu swyddi gwag ar wefan y Brifysgol, cymryd rhan mewn Ffeiriau Gyrfaoedd, Sgyrsiau a Gweithdai, a defnyddio gwasanaeth paru swyddi Gradintel.

Parc Felindre

lleoliadau busnes / gwaith

Mae’r Brifysgol yn gweithredu nifer o fentrau ar gyfer Busnes, gan gynnwys:

Gwybodaeth a roddwyd gan Roger Gill, 
Swyddog Marchnata Busnes Prifysgol Abertawe

Clip Right

“Mae unrhyw un sy’n rhoi’r gorau i ddysgu yn hen, p’un ai’n ugain neu’n bedwar ugain mlwydd oed. Mae unrhyw un sy’n parhau i ddysgu yn aros yn ifanc.”

Henry Ford