Croeso i’r rhifyn ar-lein o Arwain Abertawe - papur newydd a gaiff ei gyhoeddi bob yn ail fis i hyrwyddo Abertawe a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd yn ein hardal.
Caiff Arwain Abertawe ei ddanfon i bob aelwyd yn Ninas a Sir Abertawe ac rydym hefyd yn sicrhau bod ein straeon yn cyrraedd rhannau eraill o’r DU.
Er ei fod yn cael ei gyhoeddi gan yr awdurdod lleol, nid papur newydd cyngor cyffredin yw hwn. Felly, cewch newyddion a nodweddion gan ystod eang o bobl, yn ogystal â’u barn a’u safbwyntiau.
Hoffem hefyd glywed gennych chi, yn enwedig os hoffech gyfrannu neu os oes gennych ymholiadau am Arwain Abertawe.
Gellir lawrlwytho hen rifynnau o wefan Dinas a Sir Abertawe.