Creu "arfordir rhyngrwyd" yn Ne-orllewin Cymru i ysgogi dyfodol digidol ynni, technoleg a gofal iechyd sy’n ganolog i gynllun bargen ddinesig £500m.
Mae Cadeirydd Dinas Ranbarth Bae Abertawe, Syr Terry Matthews, yn ceisio trawsnewid y sectorau hyn yn yr un ffordd ag y newidiodd y rhyngrwyd delathrebu.
Y glasbrint yw creu 33,000 o swyddi dros yr 20 mlynedd nesaf.
Byddai cebl trawsatlantig ffeibr optig o Efrog Newydd i Fae Oxwich yn "gam enfawr" i ddod â band eang cyflym iawn.
Mae’r dinas-ranbarth wedi penderfynu mynd am rywbeth nodweddiadol ac uchelgeisiol yn ei weledigaeth - heb ei seilio ar seilwaith ffisegol na phrosiectau trafnidiaeth enfawr.
Mae’n cyfaddef bod De-orllewin Cymru yn tangyflawni’n economaidd a bod angen bod yn gyfnerth hefyd, yn enwedig gyda’r anawsterau a wynebir gan gyflogwyr mawr fel Tata Steel ym Mhort Talbot.
Mae’r rhai sydd y tu ôl iddo’n dweud eu bod eisiau "rhagori ar bob disgwyl" a chynnig rhywbeth o bwys i’r DU, yn ogystal â datblygu rhywbeth gwahanol i’r hyn mae bargeinion dinesig eraill yn ei gynnig.
Yn ei hanfod, byddai De-orllewin Cymru yn fainc arbrofi enfawr ar gyfer arloesedd rhyngrwyd a digidol.
- Byddai’n adeiladu ar y sector ynni adnewyddadwy a chonfensiynol sydd eisoes yn y rhanbarth i’w cysylltu’n ddigidol a datblygu systemau ynni’r dyfodol ac atebion clyfar ar storio ac effeithlonrwydd.
- Byddai’r band eang cyflymaf sydd ar gael ar gyfer twf busnes - gan gynnwys y diwydiannau technoleg a chreadigol - a byddai’r rhanbarth yn ceisio creu mainc arbrofi 5G.
- Byddai ardal fenter "cwmwl" newydd yn ceisio bod yn fagned ar gyfer cwmnïau data.
- Byddai’r rhyngrwyd yn gwella diagnosteg iechyd, yn rheoli data ac yn creu cynlluniau triniaeth personol a theleofal, gan adeiladu ar yr ymchwil gwyddorau bywyd a’r ymchwil feddygol sydd eisoes yn cael ei chynnal.
Mae’r cynnig wedi’i ddadansoddi gan Brifysgol Caerdydd ac amcangyfrifir y gallai’r potensial economaidd olygu y byddai 33,000 o swyddi’n cael eu creu dros 20 mlynedd - sy'n werth £3.3bn mewn allbwn.
Mae’r pedwar cyngor lleol yn y dinas-ranbarth yn edrych ar ymrwymiad £100m dros 20 mlynedd, gyda chyfraniadau gan y sector preifat, addysg uwch a’r Undeb Ewropeaidd.
Deellir bod trafodaethau ar gyfer y cyswllt ffeibr optig o Ogledd America ar gam datblygedig ac y byddai’n dod â band eang cyflym iawn i Orllewin Cymru gyntaf, gan alluogi trefi ar hyd yr arfordir i gael budd ohono.
Dywedodd Syr Terry, yn siarad o Ganada, ei bod yn bwysig sylweddoli mai trwy ranbarth De-orllewin Cymru y byddai’r brif sianel gyfathrebu drawsyrru o Efrog Newydd i Lundain.
"Mae’n dweud cyfrolau am bwysigrwydd adeiladu sector technoleg ar y sianeli cyfathrebu hynny.
"Mae cyfle i greu diwydiant meddalwedd sylweddol. Codio ddylai fod yr hyn sy’n bwysig i bobl yn y rhanbarth hwn."
Mewn llythyr at y Canghellor George Osborne, dywedodd Syr Terry - a wnaeth ei filiynau mewn datblygiadau rhyngrwyd o’r diwydiant telathrebu - fod y weledigaeth yn mynd i’r afael â heriau byd-eang a’i bod yn ddigon mawr i ddenu buddsoddwyr rhyngwladol.
"Mae’r bwlch ffyniant rhwng Bae Abertawe a gweddill Cymru a’r DU yn parhau i fod yn ystyfnig ac yn annerbyniol o uchel.
"Ni chaiff trawsnewid go iawn ei gyflawni trwy wneud mwy o’r un peth."
Yn ddiweddar, datgelodd Cyngor Abertawe ei gynigion adfywio ei hun a galwodd yr arweinydd Rob Stewart gynnig y fargen ddinesig yn "gynnig eithriadol o gyffrous.”