Wedi’i hennill gan dîm Gosodiadau SAS: Gwobr Aur ESTAS ar gyfer yr Asiant Gosod Gorau i fyfyrwyr yng Nghymru 2016.
Mae Gwasanaethau Llety Myfyrwyr, a adwaenir hefyd fel Gosodiadau SAS, yn fenter ar y cyd rhwng Gwasanaethau Preswyl a’r Undeb Myfyrwyr, wedi’i sefydlu i helpu myfyrwyr Prifysgol Abertawe i ddod o hyd i dai addas o ansawdd da yn y sector preifat.
Mae SAS yn helpu dros 600 o fyfyrwyr yn yr 2il a’r 3edd flwyddyn, myfyrwyr ôl-raddedig a myfyrwyr cyfnewid i ddod o hyd i lety bob blwyddyn.