-
tir busnes o safon ar gael nawr
*Llun CGI at ddibenion dangosol yn unig
-
amgylchedd o safon ar gyfer busnes
-
amgylchedd o safon ar gyfer byw
-
amgylchedd o safon ar gyfer arloesedd
-
amgylchedd o safon ar gyfer ymchwil a datblygiad
-
amgylchedd o safon ar gyfer twf
-
amgylchedd o safon ar gyfer mynediad
-
amgylchedd o safon ar gyfer addysgu a chyflogaeth
tir datblygu busnes gydag argaeledd uniongyrchol
y lleoliad delfrydol
Mae Abertawe’n brif leoliad busnes, yn denu deiliaid busnes newydd, buddsoddi ariannol, datblygu eiddo a gwaith adfywio.
archwilio Parc Felindre
Parc busnes a gefnogir gan y sector cyhoeddus yw Parc Felindre sy’n canolbwyntio ar ddiwydiannau sy’n dod i’r amlwg megis gweithgynhyrchu lefel uchel a defnyddiau lefel uchel, ynghyd â defnydd ategol lle maent yn gyflenwol, a pharcio. Gellir darparu arwynebedd llawr posib o hyd at 80,065 metr sgwâr (862,000 tr sg) ar 16 ha (40 erw) net. Dyrennir y parc busnes yn y CDLl mabwysiedig ar gyfer defnydd B1 a B2.
diwylliant Bae Abertawe
Mae Parc Felindre yn rhanbarth Bae Abertawe yn ne-orllewin Cymru yn cynnig potensial enfawr i greu cyrchfan bywyd/gwaith o arwyddocâd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnig cyfleoedd sylweddol i greu swyddi ar gyfer Cymru.
“Oherwydd y seilwaith a’r cysylltiadau cyfathrebu a gynigir gan y safle, bydd yn gynnig deniadol iawn i ddarpar fuddsoddwyr”
Y Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr