Mae Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Cymru, wedi bod yn pwysleisio pwysigrwydd Bargen Ddinesig yn Abertawe i Gymru yn ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU.
Mae’r Gweinidog, a oedd yn ymweld ag Abertawe ddydd Mawrth, yn dweud y gallai cynigion sy'n dod i'r amlwg ar gyfer Bargen Ddinesig, os byddent yn llwyddiannus, helpu i roi hwb i dwf economaidd ar draws Dinas Ranbarth Bae Abertawe cyfan.
Mae Bargen Ddinesig yn gytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a dinas-ranbarth sy’n helpu i gefnogi twf economaidd, creu swyddi neu fuddsoddi mewn prosiectau lleol.
Mae Dinas Ranbarth Bae Abertawe’n ystyried gwneud cais am Fargen Ddinesig a fyddai’n datgloi buddsoddiad sy’n werth biliynau o bunnoedd a chreu cannoedd o swyddi newydd trwy ganolbwyntio ar dri maes allweddol: ynni, llesiant a chysylltedd.
Meddai Ms Hutt: "Yn ystod fy nhrafodaethau â Llywodraeth y DU, rwyf wedi pwysleisio pwysigrwydd Bargen Ddinesig yn Abertawe i Gymru. Bydd Bargen Ddinesig lwyddiannus i Ddinas Ranbarth Bae Abertawe yn golygu bod angen gweithio agos rhyngom, y ddinas a’r rhanbarth lleol a Llywodraeth y DU. Rydym yn gwbl ymrwymedig i ddatblygu’r gwaith hwnnw a sicrhau bod y datblygiad yn rhan annatod o’r cynnig. Nawr bod y trafodaethau wedi dechrau, rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu’r cynnig cyffrous hwn."
Ar ei hymweliad ag Abertawe, dangoswyd fideos o’r awyr hefyd iddi o’r syniadau adfywio buddugol ar gyfer safleoedd datblygu Dewi Sant a’r Ganolfan Ddinesig.
Meddai Ms Hutt: "Roeddwn yn falch o gael y cyfle i weld yn ymarferol y cynlluniau sylweddol ar gyfer adfywio canol dinas Abertawe. Yn ogystal â thrawsnewid canol y ddinas, bydd yn dod â hwb economaidd a seilwaith cryf sydd mor hanfodol i lwyddiant Dinas Ranbarth Bae Abertawe ehangach yn y dyfodol."
Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: "Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, ac i’r Gweinidogion Hutt a Hart yn benodol, am y cymorth maent yn ei roi i gynnig Bargen Ddinesig y Dinas-ranbarth a’n cynlluniau i adfywio canol dinas Abertawe. Rydym yn edrych ymlaen at ragor o waith partneriaeth agos gyda nhw yn y dyfodol wrth i ni fynd ati i godi safonau byw ar draws De-orllewin Cymru, gan greu swyddi newydd a datblygu canol dinas ffyniannus i hybu economi Dinas Ranbarth Bae Abertawe."
Mae’r syniadau buddugol ar gyfer safle Dewi Sant yn cynnwys arena dan do newydd a stryd fanwerthu newydd sy’n estyn o Whitewalls i Heol Ystumllwynarth. Mae tai tref, rhandai, gwestai a chysylltiadau gwell nag erioed yn ninas y glannau ymysg y syniadau buddugol ar gyfer gwaith adfywio safle’r Ganolfan Ddinesig.