treftadaeth gyfoethog
Mae Abertawe’n dathlu stori amrywiol ei hanes cyfoethog a diddorol trwy ei hamgueddfeydd, ei theatrau, ei horielau, ei digwyddiadau a’i gwyliau. Abertawe yw man geni Dylan Thomas. Mae ei gerddi a’i waith wedi’u cynnwys mewn llawer o weithiau celf cyhoeddus rhanbarthol ac yn barhaol yng Nghanolfan Dylan Thomas yng Nglannau Abertawe.
Mae gan Abertawe amgueddfeydd hynaf a mwyaf newydd Cymru – Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sy’n cofnodi hanes amaethyddol a diwydiannol amrywiol yr ardal.