y lleoliad delfrydol

Parc Felindre – buddsoddi ar gyfer yfory.

Bydd y Parc Busnes a’r pentref newydd arfaethedig ym Mharc Felindre yn datblygu'n gyrchfan bywyd/gwaith o bwys rhanbarthol a chenedlaethol, gan ddarparu amgylchedd o safon ar gyfer datblygu busnes a chyfleoedd gwaith ar gyfer de-orllewin Cymru, gyda’r canlynol:

  • parc busnes modern yng nghanol Dinas Ranbarth Bae Abertawe.
  • safle datblygu newydd yn darparu 16 hectar o dir datblygu gydag argaeledd uniongyrchol.
  • cyfleoedd ar gyfer dyluniad pwrpasol, gwaith adeiladu hyblyg, llain o safon wedi’i thirlunio yng nghyd-destun Fframwaith Datblygu Felindre.
  • ar gyfer cymorth busnes
    ystod o gymorth ariannol a masnachol i gwmnïau trwy Lywodraeth Cymru ac mae Cyngor Abertawe wedi annog datblygu brandiau adnabyddus ledled Cymru.
Parc Felindre

Mae Abertawe’n cynnig profiad busnes o safon, ffordd o fyw sy'n cyfoethogi ac amgylchedd rhagorol:

  • ar gyfer busnes
    mae safon y busnesau sydd wedi’u sefydlu yn y rhanbarth megis Amazon, Admiral, BT, HSBC, TATA Steel a Virgin yn dangos ei apêl.
  • cost-effeithlonrwydd
    telerau cystadleuol ar gyfer caffael safle, cyflogaeth, tai, cyflenwadau, gwasanaethau.
  • ar gyfer hygyrchedd
    llwybrau masnach ryngwladol trwy hedfan, ar y môr, y trên a’r ffordd trwy fynediad hwylus o’r draffordd ar gyfer Parc Felindre ger Cyffordd 46 yr M4.
Clip Right
  • ar gyfer cyflogaeth
    Mae gan boblogaeth Abertawe, sef dros chwarter miliwn o bobl, weithlu â sgiliau technegol ac addysgedig, sy’n brofiadol mewn diwydiannau arbenigol megis Iechyd, Peirianneg Fanwl, Awyrofod, Technolegau sy'n dod i'r Amlwg, Cyfrifiadureg a Gwyddorau Bywyd. Dinas ifanc â thros hanner y boblogaeth yn oedran gweithio â chyfradd cyflogaeth o 87% yn y sectorau gwasanaeth. Mae darpar weithlu ychwanegol o dros hanner miliwn yn byw o fewn hanner awr ac mae dros 1.5 miliwn yn byw o fewn awr o amser gyrru.
  • ar gyfer addysg
    Mae Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cydweithredu â busnes i greu ymchwil ac addysg sydd ar flaen y gad. Mae graddedigion o safon ac ymadawyr o ysgolion lleol gwych, academïau a cholegau’n rhan o gronfa eithriadol o dalent sydd ar gael ar gyfer cyflogaeth neu brentisiaethau.
Parc Felindre
  • ar gyfer tai
    mae cynigion wrthi’n cael eu datblygu i Barc Felindre gael ei bentref ei hun gan ddarparu cymuned ‘bywyd/gwaith’ newydd.
  • ar gyfer ffordd o fyw
    ansawdd bywyd uchel mewn amgylchedd eithriadol, gyda chwaraeon tir a dŵr, digwyddiadau, gweithgareddau diwylliannol ac ardal dwristaidd ffyniannus, ger Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Clip Right

“Cafodd Abertawe ei henwi fel y ddinas harddaf i fyw ynddi yn y DU, yn ôl astudiaeth ym mis Chwefror 2016.”

Sgoriodd yr ymchwil, a gynhaliwyd gan web-blinds.com, Abertawe o flaen Plymouth, Derby, Bryste a Brighton. Gwerthusodd yr ymchwil 175 o ystadegau gwahanol am 25 dinas fwyaf poblog orau’r DU.