- Cymorth ac arweiniad ariannol ar gyfer busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu gan Lywodraeth Cymru
Mae Busnes Cymru yn rhoi gwybodaeth a mynediad at gymorth i bobl sy’n dechrau, yn rhedeg ac yn tyfu busnes..
Mae Twf Swyddi Cymru yn cefnogi busnesau i gyflogi pobl 16-24 oed am 6 mis ar yr isafswm cyflog cenedlaethol am 25 awr yr wythnos. Mae Cynllun Gweithredu ar Ddiswyddiadau yn helpu pobl y mae dileu swydd wedi effeithio arnynt i ddysgu sgiliau newydd a dod o hyd i gyflogaeth.
Mae’r Cynllun Taleb Gwibgyswllt yn cynnig grantiau hyd at £10,000 ar gyfer band eang cyflym iawn.