nodweddion y safle
Mae Parc Felindre yn ymestyn i 43 hectar (106 erw) i gyd. O hyn, mae hyd at 16 hectar (39.5 erw) o dir cyflogaeth ar gael mewn 12 llain wedi'u gasanaethu'n llawn sy’n amrywio o ran maint o 0.5 i 2 hectar (1.2 i 4.9 erw). Mae gan Barc Felindre fynediad uniongyrchol o Gyffordd 46 yr M4 a chaiff ei wasanaethu gan ffordd fynediad gylchol – i’w henwi’n Ffordd Parc Felindre.
Wedi’i dirlunio i safon uchel, mae digon le parcio’n gysylltiedig â phob llain. Mae lleiniau ar gael ar unwaith. Mae’r safle’n hyblyg – yn ddelfrydol ar gyfer busnesau sy'n ehangu a mewnfuddsoddiad mawr.