amgylchedd

*Llun CGI at ddibenion dangosol yn unig

Mae Parc Felindre wedi canolbwyntio ar safle tir llwyd, diogelu a gwella’r ardal maes glas fwy gwerthfawr, gan sicrhau bod yr amgylchedd a’r datblygiad cynaliadwy wedi bod yn ystyriaethau sylweddol yn y strategaeth datblygu.

seilwaith

Mae cyffordd traffordd newydd a ffordd wedi’u hadeiladu i roi mynediad hawdd i Barc Felindre. Mae seilwaith ar y safle hefyd wedi’i gyflwyno, gan gynnwys cyflwyno heol stad a gwasanaethau hanfodol i ddarparu lleiniau wedi'u gwasanaethu'n llawn sy’n barod i’w datblygu.

Parc Felindre

adeiladu cynaliadwy

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl adeiladau newydd mae’n eu hyrwyddo neu’n eu cefnogi gyrraedd ei safonau adeiladu cynaliadwy. Ceir manylion yma.

Mae’r fframwaith datblygu’n annog: mynediad trwy fws a beic, cyfle i ddefnyddio deunyddiau ailddefnyddiadwy neu ddeunyddiau ynni isel ym maes adeiladu, ailddefnyddio deunyddiau, cynhyrchion lleol, ynni adnewyddadwy, integreiddio ynni gwynt, haul a thirlunio naturiol i fwyafu ynni’r haul.

Clip Right

y tu hwnt i frics a morter

Mae'r gwaith yn Felindre hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer lleoliadau hyfforddiant a chyfleoedd profiad gwaith gyda'r contractwr ar y safle i bobl leol ddiwaith neu sy'n anweithgar yn economaidd.

Mae hyn yn rhan o gynllun Cyngor Abertawe o’r enw ‘Y Tu Hwnt i Frics a Morter’ – menter bwysig i sicrhau manteision cymdeithasol o weithgarwch caffael ac adfywio yn Abertawe er lles parhaol y gymuned gyfan.

Parc Felindre

“Roedd cau gwaith tunplat Felindre yn golled sylweddol i’r gymuned, ond mae’r fenter adfywio hon sy’n werth miliynau o bunnoedd yn cael effaith drawsnewidiol wirioneddol ar yr ardal leol.

Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop wedi gallu cefnogi gwaith datblygu’r parc busnes hwn a fydd yn creu cannoedd o swyddi ac yn rhoi hwb i’r economi leol.”

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi