bywyd Bae Abertawe

Mae llawer o bethau i’w gweld a’u gwneud ym Mae Abertawe a’r rhanbarth o’i gwmpas. P’un a oes gennych ddiddordeb yn y theatr, orielau celf, digwyddiadau neu wyliau, mae Abertawe’n cynnig adloniant, gweithgareddau a digwyddiadau diwylliannol amrywiol trwy gydol y flwyddyn.

treftadaeth gyfoethog

Mae Abertawe’n dathlu stori amrywiol ei hanes cyfoethog a diddorol trwy ei hamgueddfeydd, ei theatrau, ei horielau, ei digwyddiadau a’i gwyliau. Abertawe yw man geni Dylan Thomas. Mae ei gerddi a’i waith wedi’u cynnwys mewn llawer o weithiau celf cyhoeddus rhanbarthol ac yn barhaol yng Nghanolfan Dylan Thomas yng Nglannau Abertawe.

Mae gan Abertawe amgueddfeydd hynaf a mwyaf newydd Cymru – Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sy’n cofnodi hanes amaethyddol a diwydiannol amrywiol yr ardal.

Parc Felindre

cyfoeth o ddiwylliant

Ar draws Bae Abertawe, gellir canfod ystod amrywiol o adloniant o opera a bale i ddrama, dawns a sioeau cerdd, yn ogystal â nosweithiau ffilm a chomedi. Dewiswch o Theatr y Grand, Abertawe, Theatr Dylan Thomas neu Ganolfan Celfyddydau Taliesin a theatrau lleol yn Llanelli, Castell-nedd neu Bort Talbot.

Mae gan Abertawe ei chwmni opera teithiol ei hun, sef Opera Dinas Abertawe, ac mae hefyd yn cynnal Oriel Gelf Glyn Vivian. Mae gan y perl hwn o oriel waith gan Hen Feistri yn ogystal ag artistiaid cyfoes, casgliad rhyngwladol o borslen a tsieni Abertawe.

Clip Right

amrywiaeth o wyliau a digwyddiadau

Wrth ei gwraidd, dinas o ddathlu yw Abertawe. Ers dros 60 mlynedd, mae Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Abertawe wedi cynnwys cerddoriaeth opera, jazz a chlasurol o'r radd flaenaf, megis Cerddorfa Symffoni Tchaikovsky, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chôr Coleg y Brenin, Caergrawnt.

Mae amrywiaeth o gerddoriaeth i’w chael ym Mharc Margam a Neuadd y Ddinas, Abertawe, sy’n gartref i Neuadd Brangwyn. Roedd ei phaneli wal enwog gan Syr Frank Brangwyn wedi’u bwriadu’n wreiddiol ar gyfer Tŷ’r Arglwyddi, ond cawsant eu gosod yn Abertawe yn y 1930au.

Parc Felindre

Mae digwyddiadau awyr agored yn cynnwys “Shakespeare yn y Parc” yng ngerddi Castell Ystumllwynarth a dangos digwyddiadau chwaraeon ar y sgrîn fawr yng nghanol y ddinas. Cynhelir gwyliau cerddoriaeth mawr yn flynyddol ym Mharc Singleton Abertawe, ac mae sêr mawr megis The Who ac Elton John wedi diddanu torfeydd o 20,000 a mwy yn Stadiwm Liberty.

Cymerwch ran neu fwynhau bod yn y gynulleidfa ar gyfer corau megis y corau meibion Cymreig traddodiadol, grwpiau theatr, gweithdai, ensembles, bandiau a grwpiau celf a llenyddol amrywiol.

Hefyd, edrychwch ar ‘Digwyddiadau yn Abertawe’ am fwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Mae Abertawe gyfan yn llwyfan!

Clip Right

“Y weledigaeth ar gyfer ardal Bae Abertawe yw rhwydwaith o aneddiadau annibynnol ag Abertawe yn y canol, sy’n tynnu ynghyd yn effeithiol gydag economi gystadleuol fodern wedi’i dylunio i ddarparu ansawdd bywyd uchel, amgylchedd cynaliadwy, glannau bywiog a chysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol ardderchog”

o Fframwaith Datblygu Felindre