Mae’r ymweliad yn dathlu Campws y Bae sy’n rhan o ddatblygiad campws a rhaglen ehangu uchelgeisiol y Brifysgol a gynhelir dros nifer o flynyddoedd.

Mae’r Campws yn un o brosiectau blaenllaw Sefydliad y Tywysog ar gyfer Adeiladu Cymunedau. Yn 2009, roedd gan Sefydliad y Tywysog y weledigaeth i droi safle tir llwyd gwag yr oedd y cwmni olew BP yn berchen arno’n ganolfan gwybodaeth ac arloesedd a fyddai’n bywiogi’r rhanbarth cyfan. Adeiladodd hyn ar eu gwaith ar y cyd i greu Coed Darcy ar safle halogedig ym 1999. Datblygodd Sefydliad y Tywysog y brîff strategol ac arwain y gweithdai rhanddeiliaid ar gyfer prosiect y campws. Prifysgol Abertawe a St. Modwen oedd partneriaid y prosiect, Porphyrios Associates oedd yr uwchgynllunwyr a chafodd yr adeiladau eu dylunio gan Porphyrios Associates a Hopkins Architects.

Yn ystod yr ymweliad, cyhoeddodd Sefydliad y Tywysog ei radd Meistr newydd mewn Peirianneg Gynaliadwy ar gyfer Datblygu Rhyngwladol, a gaiff ei chyflwyno ar y cyd â’r Brifysgol, gan greu cysylltiadau ar gyfer y dyfodol rhwng y ddau sefydliad.
Wrth gyrraedd, cafodd Ei Uchelder Brenhinol ei gyfarch gan yr Athro Richard Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, David Toman, Prif Weithredwr Sefydliad y Tywysog ar gyfer Adeiladu Cymunedau, Steve Burke, Cyfarwyddwr Gweithredol St. Modwen, a phartneriaid eraill cyn mynd ar daith o’r campws.

Yn ystod ei daith o’r campws, cyfarfu'r Tywysog â staff a myfyrwyr. Gwelodd y cyfleusterau o’r radd flaenaf, Llyfrgell y Bae ac ardal y myfyrwyr. Hefyd, rhoddodd y daith y cyfle i’r Tywysog weld lleoliad datblygiadau Cam Dau yn y dyfodol a gwaith tirlunio a phlannu arfaethedig ar y safle.
Daeth yr ymweliad i ben gyda’r Tywysog yn dadorchuddio plac i nodi agoriad Campws y Bae yn Awditoriwm trawiadol Syr Stanley Clarke y Neuadd Fawr.

Wrth siarad am Gampws y Bae, meddai David Toman, Prif Weithredwr, Sefydliad y Tywysog ar gyfer Adeiladu Cymunedau:

“Roedden ni eisiau creu cymuned, lle i bobl ddod at ei gilydd i danio arloesedd a mwy o wybodaeth drwy rannu. Mae Campws y Bae Prifysgol Abertawe’n esiampl o’r math newydd o economi sy’n gallu codi o ludw hen dân. Heb weledigaeth Ei Uchelder Brenhinol, ni fyddai’r campws yma wedi cael ei adeiladu. Gweithiodd Sefydliad y Tywysog yn ddiflino gyda Phrifysgol Abertawe, CBS Castell-nedd Port Talbot, BP plc a St. Modwen plc i adfywio darn diffaith o dir i fod yn esiampl o safon byd o adfywio cynaliadwy, sy’n helpu i greu swyddi a thwf ar gyfer Cymru.”

Meddai Peter Mather, BP, Pennaeth y DU:

“Pan wnaeth BP y penderfyniad anodd i adael ardal Abertawe, gwnaethom ymrwymiad i ddod o hyd i ffyrdd o greu treftadaeth dymor hir. Mae gweld ein hen safle’n cael ei droi’n gartref ar gyfer Peirianneg a Rheoli’n hynod addas. Mae’n bleser gennym ddathlu’r llwyddiant hwn gyda Phrifysgol Abertawe, llywodraethau lleol, Sefydliad y Tywysog ac, yn bwysicaf, y gymuned leol – y gwnaethom yr ymrwymiad cychwynnol iddi.”

Sylw gan Richard B. Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe:

“Bydd Campws Abertawe’n ein galluogi i ddenu mewnfuddsoddiad i Gymru a hyrwyddo twf clystyrau uwch-dechnoleg Bydd yn sefydlu’r rhanbarth fel lleoliad bywiog ar gyfer cwmnïau. uwch-dechnoleg modern, gan ddod ag effaith fwy byth yn y pen draw.”

Meddai Steve Burke, Cyfarwyddwr Gweithredol, St. Modwen:

“Mae datblygiad Campws y Bae’n uchafbwynt sylweddol o raglen adfywio 2,500 erw barhaol a thrawsffurfiol St. Modwen ar draws De Cymru gyda’r potensial i ddyblu mewn maint o fewn y pum mlynedd nesaf. Bydd y prosiect tymor hir hwn hefyd yn gyfrannwr allweddol ar gyfer Dinas Ranbarth Bae Abertawe, gydag effaith economaidd gadarnhaol oddeutu £3bn a hyd at 10,000 o swyddi ar draws rhaglen adeiladu 10 mlynedd y prosiect a’r tu hwnt.”

Meddai Dr Demetri Porphyrios, Pennaeth Porphyrios Associates:

“Creu lleoedd sy’n meithrin ac yn galluogi bywydau myfyrwyr sydd wrth wraidd campws llwyddiannus.”

Meddai David Selby, Uwch-bartner, Hopkins Architects:

“Mae Campws nodweddiadol newydd y Bae wedi’i greu i helpu Prifysgol Abertawe i lywio ei dyfodol academaidd fel un o sefydliadau addysg uwch blaenaf Cymru. Mae’r datblygiad yn ymgorffori trefniadau creu lleoedd mewnol ac allanol ac yn cynnwys cyfres o adeiladau o ansawdd uchel wedi’u trwytho â lleoedd ysbrydolus sy’n creu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio academaidd a dysgu.

“Mae’r dyluniad hyblyg yn cefnogi rhyngwyneb cryf y Brifysgol â diwydiant, fel canolfan arloesedd a chyfleuster gweithgynhyrchu, gan ddod â masnach ynghyd ag ymchwil peirianneg a disgyblaethau mor amrywiol â nanotechnoleg a rheoli busnes. Mae’r campws newydd yn pennu cyd-destun ar gyfer creu atgofion parhaol i fyfyrwyr, cyfadran a staff.”