twristiaeth a hamdden

Mae Penrhyn Gŵyr Bae Abertawe wedi’i ddynodi’n Ardal gyntaf y DU o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae morlin Gŵyr yn ardal heb ei difetha o draethau arobryn a golygfeydd syfrdanol.

morlin i'ch ysbrydoli

Mae gan Benrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, rai o’r lleoliadau gorau ar gyfer cerdded, beicio, golff a chwaraeon dŵr. Mae arfordir Gŵyr yn cael ei ganmol am ei dirwedd heb ei difetha o glogwyni a choetiroedd, a thraethau disglair.

Mae Bae Abertawe’n cynnal detholiad eang o westai, bwytai neu dafarnau, gan gynnig amrywiaeth o brofiadau bwyta gyda golygfa arfordirol ragorol wedi’i chynnwys yn aml. Mae gan y Ganolfan Hamdden newydd, ger Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac ardal siopa’r ddinas, sleidiau a thiwbiau, yn ogystal â’r cyfle i hogi’ch sgiliau syrffio ar don dragwyddol.

Parc Felindre

byd natur i'ch ysbrydoli

Mae amrywiaeth eang Gŵyr o dirweddau, llwybrau beicio a llwybrau troed yn berffaith ar gyfer archwilio. Mae’r coetiroedd, traethau, morfa heli ac afonydd heb eu difetha’n gynefinoedd perffaith ar gyfer o fywyd gwyllt.

Ac yntau’n baradwys gwyliwr adar, gellir gweld gwylogod, gleision y dorlan a delorion y cnau, gydag achosion o’u gweld yn ddiweddar wedi’u rhestru yng Nghymdeithas Adaregol Gŵyr. Mae Penrhyn Gŵyr hefyd yn cynnal llawer o rywogaethau o ystlum, cynefinoedd bridio ar gyfer ieir bach yr haf a nifer o bysgod, amffibiaid a phlanhigion dŵr. 

Mae Bae Rhosili wedi’i bleidleisio’n Draeth Gorau Cymru 2017 ac yn un o 10 Traeth Gorau’r DU ers pum mlynedd yn olynol yng Ngwobrau Dewis Teithwyr TripAdvisor a hwn oedd y traeth cyntaf i’w ddyfarnu’n Draeth Gorau Prydain am ddwy flynedd yn olynol!

Clip Right

rhanbarth i'ch ysbrydoli

Mae Stadiwm trawiadol Liberty ag 20,000 o seddi’n gartref i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe, sydd ar hyn o bryd yn cael ei gyfnod gorau yn yr adran bêl-droed uchaf ers 30 mlynedd. Mae hefyd yn gartref i’r Gweilch - un o’r timau rygbi cryfaf yn y DU. Mae’n atyniad o’r radd flaenaf i bobl o bob oed sy’n ychwanegu at broffil Abertawe fel ‘Dinas Chwaraeon’.

Mae sgyrsiau ar y gweill rhwng Cyngor Abertawe a Phrifysgol Abertawe i ddatblygu cyfleuster ymchwil dŵr ac Acwariwm – ‘Canolfan Hydro’.

Mae Abertawe’n ddinas sy’n tyfu’n barhaus, yn ddinas arloesedd.

Parc Felindre

“Mae’n swyddogol! Mae Abertawe wedi’i henwi’n ddinas brydferthaf i fyw ynddi yn y DU, yn ôl astudiaeth ddiweddar.”

Sgoriodd yr ymchwil, a gynhaliwyd gan web-blinds.com, Abertawe o flaen Plymouth, Derby, Bryste a Brighton. Gwerthusodd yr ymchwil 175 o ystadegau gwahanol am 25 dinas fwyaf poblog y DU.