cymorth i ddeiliaid

Poblogaeth Abertawe, ‘Dinas Glannau Cymru,’ yw oddeutu 250,000 o bobl ac mae’n ganolfan gynyddol ar gyfer busnes. Mae amrywiaeth eang o becynnau ar gael i gefnogi deiliaid Parc Felindre sy’n cynnig mantais gystadleuol ar gyfer busnes.

  • Cyngor, cymorth a grantiau busnes Cyngor Abertawe
    Mae Abertawe’n economi sector gwasanaethau fodern, yn ganolfan aeddfed ar gyfer TG, datblygiad meddalwedd, cwmnïau digidol ac amlgyfrwng. Yn gartref i ystod eang o gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol, gall Abertawe gyflenwi’r angen am raddedigion o safon o sefydliadau academaidd o fri.
  • Mae Cyngor Abertawe’n gwahodd busnesau i fanteisio i’r eithaf ar y cyfan mae dinas y cyfleoedd yn ei gynnig. Gall prosiectau buddsoddi, cyllid datblygu busnes neu eiddo fod ar gael i gefnogi eich busnes. Gweler yma.
Parc Felindre
  • Cymorth ac arweiniad ariannol ar gyfer busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu gan Lywodraeth Cymru

Mae Busnes Cymru yn rhoi gwybodaeth a mynediad at gymorth i bobl sy’n dechrau, yn rhedeg ac yn tyfu busnes..

Mae Twf Swyddi Cymru yn cefnogi busnesau i gyflogi pobl 16-24 oed am 6 mis ar yr isafswm cyflog cenedlaethol am 25 awr yr wythnos. Mae Cynllun Gweithredu ar Ddiswyddiadau yn helpu pobl y mae dileu swydd wedi effeithio arnynt i ddysgu sgiliau newydd a dod o hyd i gyflogaeth.

Mae’r Cynllun Taleb Gwibgyswllt yn cynnig grantiau hyd at £10,000 ar gyfer band eang cyflym iawn.

Clip Right
  • Digwyddiadau Busnes Cymru
    Mae Busnes Cymru yn rheoli digwyddiadau hyfforddi, rheoli a hyrwyddo amrywiol sy’n archwilio pynciau megis marchnata a gwelliant parhaus, Gwasanaethau Ariannol, Gwobrau Eiddo, arbedion costau buddsoddi. Mae siaradwyr ysgogol diweddar wedi dod o Gymdeithas Adeiladu'r Principality, GE Aviation a Heddlu Dinas Llundain. Gweler yma.
  • Siambr Fasnach De-orllewin Cymru
    Wedi’i dylunio i gefnogi busnesau lleol fel darparwr gwybodaeth a gwasanaeth, asiantaeth rhwydweithio a chyfeirio, a llais ar gyfer busnes ar lefel genedlaethol trwy achrediad Siambrau Masnach Prydain. Gweler yma.
Parc Felindre
  • Clwb Busnes Bae Abertawe
    Y clwb rhwydweithio mwyaf hirsefydlog yn ne-orllewin Cymru â thri chant o aelodau a thros fil o gefnogwyr sy’n mynd i’r digwyddiadau, gyda siaradwyr sy'n enwog yn genedlaethol o fyd busnes a gwleidyddiaeth. Hyrwyddwch eich busnes trwy becynnau nawdd amrywiol. Gweler yma.
  • Tîm Datblygu Busnes Prifysgol Abertawe
    Fel sefydliad dan arweiniad ymchwil, mae Prifysgol Abertawe’n cynnig ystod o wasanaethau cymorth ar gyfer busnes, o gysylltu busnesau ag arbenigwyr sector a chreu cyfleoedd cydweithredu rhwng diwydiant a'r byd academaidd i gyfleoedd ar gyfer lleoliadau myfyrwyr. Gweler yma.
Clip Right

“Abertawe yw canolfan economaidd rhanbarth de-orllewin Cymru ac mae wedi elwa ar fuddsoddiad a thwf cyflogaeth sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf”