Mae Dinas Ranbarth Bae Abertawe’n cwmpasu pedair ardal awdurdod lleol, sef Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Byddwn yn dod â busnes, llywodraeth leol ac ystod o bartneriaid eraill ynghyd, gan weithio tuag at nod cyffredin, sef creu ffyniant economaidd i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein Dinas-ranbarth.

Mae nifer sylweddol o gwmnïau rhyngwladol, gan gynnwys Tata, Amazon, South Hook LNG, Admiral, Virgin a GE eisoes wedi gwneud buddsoddiadau sylweddol yma. Fel rhanbarth, byddwn yn manteisio i’r eithaf ar ein cyfleoedd a’n potensial i ddenu a sicrhau mwy o fuddsoddiad.

Ein gweledigaeth ar gyfer y rhanbarth erbyn 2030 yw y bydd De-orllewin Cymru yn Ddinas-ranbarth Ewropeaidd hyderus, uchelgeisiol a chysylltiedig, wedi’i gydnabod yn rhyngwladol ar gyfer ei economi Gwybodaeth ac Arloesedd ddatblygol.

Er mwyn gwireddu hyn, bydd ein gwaith bellach yn canolbwyntio ar ddarparu Strategaeth Adfywio Economaidd Dinas Ranbarth Bae Abertawe.

Bwrdd Dinas Ranbarth Bae Abertawe fydd yn goruchwylio’r gwaith hwn.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â busnesau a phartïon eraill â buddiant i nodi’r blaenoriaethau ar gyfer Dinas Ranbarth Bae Abertawe yn y dyfodol, yn barod ar gyfer y rhaglen cronfeydd strwythurol newydd pan fydd yn gweithredu.